Ephesians 1:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
megis yd etholes ef ny ni ynddaw ef, cyn na sailiat y byt, val y byddem sanctaidd, ac yn ddiargywedd geir y vron ef yn‐cariat:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel yr etholodd ni Ynddo Ef cyn seiliad y byd, i fod o honom yn sanctaidd ac yn ddianaf ger Ei fron mewn cariad,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y dewisodd ni ynddo ef cyn sylfaenu’r byd i fod yn santaidd a difai ger ei fron ef,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hyd yn oed cyn i'r byd gael ei greu, cawson ni'n dewis ganddo i fod mewn perthynas â'r Meseia, ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyn seilio'r byd, fe'n dewisodd yng Nghrist i fod yn sanctaidd ac yn ddi-fai ger ei fron mewn cariad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel yr etholodd ni ynddo Ef, cyn seiliad y byd, ar fod o honom yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron Ef: