Ephesians 1:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y gan yr vn y mae i ni brynedigeth trwy y waed ef, nid amgen y madduant pechotae, erwydd y ’oludawc rat ef:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn yr Hwn y mae genym ein prynedigaeth trwy Ei waed, maddeuant ein camweddau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn hwn y mae gennym ryddhad drwy ei waed ef, sef maddeuant ein camweddau, yn ôl cyfoeth ei ras,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei ras ef;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cawson ni'n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni'n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ynddo ef y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed, sef maddeuant ein camweddau; dyma fesur cyfoeth y gras
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn yr hwn y mae gennym brynedigaeth trwy ei waed, maddeuant o'n troseddau, yn ol cyfoeth ei ras,