Ephesians 2:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwydd paam cofiwch ych bot gynt yn Genetloedd yn‐y cnawt, ac ich gelwit yn ddienwaediat gan yr ei’n, a elwir yr Enwaediat yn‐y cnawt, o waith dwy llaw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Am hyny, cofiwch mai gynt yr oeddych chwi, (y cenhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwir Di-amdorriad gan yr hyn a elwir Amdorriad,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny, cofiwch eich bod chwi gynt — y cenhedloedd yn y cnawd, a elwir yn ddienwaediad gan y rhai a elwir yn enwaediad, (gwaith llaw ar y cnawd oedd hynny),
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n dda i chi gofio eich bod chi sydd o genhedloedd eraill yn arfer bod ‛ar y tu allan‛. ‛Y dienwaediad‛ oeddech chi'n cael eich galw gan ‛bobl yr enwaediad‛ — sef yr Iddewon sy'n cadw'r ddefod o dorri'r blaengroen ar fechgyn i ddangos eu bod nhw'n perthyn i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny, chwi oedd gynt yn Genhedloedd o ran y cnawd, chwi sydd yn cael eich galw yn ddienwaededig gan y rhai a elwir yn enwaededig (ar gyfrif gwaith dwylo dynol ar y cnawd),
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn genhedloedd yn y cnawd — y rhai a elwir yn Ddienwaediad gan yr hyn a elwir yn Enwaediad, o waith llaw yn y cnawd —