Ephesians 2:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr awrhon in‐Christ Iesu, yr ei oeðech gynt ym‐pell, a wnaethpwyt yn agos eieit, ’sef trwy waed Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yn awr yng Nghrist Iesu, chwychwi y rhai oeddych gynt ym mhell, a wnaethpwyd yn agos yngwaed Crist;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yn awr yng Nghrist Iesu yr ydych chwithau, a oedd gynt ymhell, wedi dyfod yn agos trwy waed Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bellach, dych chi wedi cael eich uno gyda'r Meseia Iesu! Dych chi, oedd mor bell i ffwrdd ar un adeg, wedi cael dod i berthyn, a hynny am fod y Meseia wedi gwaedu a marw ar y groes.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn awr, yng Nghrist Iesu, yr ydych chwi, a fu unwaith ymhell, wedi eich dwyn yn agos trwy waed Crist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond yn awr yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddych gynt ym mhell, a wnaed yn agos yng ngwaed Crist.