Ephesians 2:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys efe yw’n tangneddyf, rhwn a wnaeth y ddoy blaid yn vn, ac a ddatododd y gay ad y rhan‐baret,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys Efe yw ein heddwch, yr Hwn a wnaeth y ddau yn un, a chanol-fur y gwahaniaeth a ddattododd Efe,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ef yw ein heddwch ni, a wnaeth y ddau beth yn un ac a chwalodd ganolfur y gwahaniad, sef yr elyniaeth,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac ydy, mae Iesu'n gwneud y berthynas rhyngon ni a'n gilydd yn iawn hefyd — ni'r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi'n huno ni gyda'n gilydd. Mae'r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd ef yw ein heddwch ni. Gwnaeth y ddau, yr Iddewon a'r Cenhedloedd, yn un, wedi chwalu trwy ei gnawd ei hun y canolfur o elyniaeth oedd yn eu gwahanu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys efe yw ein Tangnefedd, yr hwn a wnaeth y ddau yn un,