Ephesians 2:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gā ðirymio trwy y gnawd ef y gelyniaeth, ’sef Deddyf y gorchymynnae yr hon ’sy yn hanuod o ’ordinadeu, y wneuthur y ðau yn vn dyn newyð ynðo yhun, gan wneuthur tangneddyf velly,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddirymmu’r gelyniaeth trwy Ei gnawd, sef cyfraith y gorchymynion mewn ordeiniadau; fel y creai y ddau, Ynddo Ei hun, yn un dyn newydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac a ddirymodd yn ei gnawd gyfraith y gorchmynion [a oedd] mewn ordeiniadau, er mwyn creu’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd gan wneuthur heddwch,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai'r ddau ynddo'i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda'r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a'i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â'n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o'r ddau grŵp o bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dirymodd y Gyfraith, a'i gorchmynion a'i hordeiniadau. Ac felly, i wneud heddwch, creodd o'r ddau un ddynoliaeth newydd ynddo ef ei hun,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a dorrodd i lawr ganol‐fur y gwahaniaeth, gan ddirymmu yn ei gnawd ei hun yr elyniaeth, sef deddf y gorchymynion mewn ordeiniadau, fel y creai y ddau ynddo ei hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch,