Ephesians 2:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn cyfrwng pa rei ydd oeddem ni nheu hefyt yn cydtro gynt, yn tra chwantae ein cnawt, gan wneuthur ’wyllys e y cnawt, a’r meddwliae, ac oeddem wrth anian yn blant dig ofeint, yn gystal ac eraill.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ymhlith y rhai yr oeddym ni oll â’n hymarweddiad gynt yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau’r cnawd a’r meddyliau, ac yr oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, fel y lleill;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yn eu mysg y bu gynt ein buchedd ninnau oll yn chwantau ein cnawd, yn gwneuthur ewyllysiau ein cnawd a’n bryd, ac yr oeddem yn blant digofaint wrth natur fel y rhelyw hefyd, —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a'r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni'n byw i blesio'r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, a roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymhlith y rhai hynny yr oeddem ninnau i gyd unwaith, yn byw yn l ein chwantau dynol ac yn porthi dymuniadau'r cnawd a'r synhwyrau; yr oeddem wrth natur, fel pawb arall, yn gorwedd dan ddigofaint Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ym mhlith y rhai yr oeddym ninnau oll hefyd gynt yn byw yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a'r meddyliau; ac yr oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, megys eraill;