Ephesians 2:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
val y dangosei yn yr oesoedd rhac llaw y dirvawr olud y rat ef, trwy ei garedigrwydd y ny ni in‐Christ Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y dangosai i’r oesoedd sy’n dyfod ragorol olud Ei ras mewn cymmwynasgarwch tuag attom yng Nghrist Iesu,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
er mwyn dangos yn yr oesoedd a ddaw dra-chyfoeth ei ras drwy ei diriondeb tuag atom ni yng Nghrist Iesu;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly bydd haelioni Duw i'w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i'r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
er mwyn dangos, yn yr oesoedd sy'n dod, gyfoeth difesur ei ras trwy ei diriondeb i ni yng Nghrist Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y dangosai yn yr oesoedd a ddeuai ragorol olud ei ras, mewn cymmwynasgarwch tuag attom ni yng Nghrist Iesu.