Ephesians 2:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit can rat yr iacheir chwi trwy ffydd, a’ hyny ny d o hanoch y‐hunain: dawn Duw ydyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys trwy ras yr ydych yn gadwedig trwy ffydd, a hyn, nid o honoch chwi y mae; o eiddo Duw y mae’ r rhodd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys o ras yr ydych wedi eich cadw drwy ffydd, a hynny nid ohonoch eich hunain, ond rhodd Duw ydyw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duw ydyw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Haelioni Duw ydy'r unig beth sy'n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu'r peth. Anrheg Duw ydy e!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd, a hynny nid o honoch eich hunain: rhodd Duw ydyw;