Ephesians 3:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwydd paam ydd archaf arnoch nac ymellyngoch o bleit vy‐blinderae i er eich mwyn, yr hyn yw eich gogoniant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd paham deisyfiaf na lwfrhaoch am fy mlinderau trosoch, y rhai yw eich gogoniant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, yr wyf yn erfyn na lyfrhaoch wrth fy nhrallodion i drosoch chwi; hwy yw eich gogoniant chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly plîs peidiwch digalonni o achos beth dw i'n gorfod ei ddioddef drosoch chi. Dylech weld ei fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn erfyn, felly, ar ichwi beidio digalonni o achos fy nioddefiadau drosoch; hwy, yn wir, yw eich gogoniant chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd paham yr wyf yn deisyf na lwfrhâoch yng nghanol fy mlinderau drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.