Ephesians 3:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y boch abl y amgyffred y gyd a’r ol Sainct æ, beth yw lled, a’ hyd a’ dyfnder, ac vch el der:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, y llwyr-alloch amgyffred, ynghyda’r holl saint, pa beth yw’r lled,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac i chwithau, wedi eich gwreiddio a’ch sylfaenu mewn cariad, gael nerth i amgyffred gyda’r holl saint beth yw’r lled a’r hyd a’r uchder a’r dyfnder,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda'r holl saint, beth yw'r lled, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia — mae'n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Boed i chwi, sydd chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd 'r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y byddoch lwyr‐alluog i amgyffred gyda'r holl saint beth yw y lled, a'r hyd, a'r uchder a'r dyfnder,