Ephesians 4:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
val rhac llaw na byðom mwy ach yn plant, yn bwhwmman ac yn ein trawsarwein gan bop awel dysceidaeth, wrth ddichell dynion, a’ hocced, er cynllwyn twyll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i fesur maint cyflawnder Crist; fel na byddom mwyach yn blant, yn bwhwmman a’n cylch-ddwyn â phob gwynt dysgeidiaeth, gan hocced dynion, mewn cyfrwysdra, yn ol dyfais cam-arwain;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel na byddom mwyach yn fabanod yn cael ein lluchio a’n cylchdroi gan bob gwynt o athrawiaeth, drwy hoced dynion, drwy ystryw i gynllwyn twyll,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, a'n chwythu yma ac acw gan bob awel sy'n dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neu'n cael ein twyllo gan bobl slei sy'n gwneud i gelwydd swnio fel petai'n wir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ydym i fod yn fabanod mwyach, yn cael ein lluchio gan donnau a'n gyrru yma a thraw gan bob rhyw awel o athrawiaeth, wedi ein dal gan ystryw y rhai sy'n ddyfeisgar i gynllwynio twyll.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel na byddom mwyach yn fabanod, yn cael ein taflu gan donnau a'n cludo amgylch ogylch gan bob gwynt athrawiaeth, gan hocced dynion, mewn cyfrwysdra, yn ol cynllwyn twyll;