Ephesians 4:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y gan yr hwn y bydd ir corph gwedy darvot ei gom p oni ai gyssylltu ynghyt trwy’ bob cymmal, er ymdrefny at, (erwyð y grym ustr ysydd ym‐mesur pop parth) dderbyn cynnydd ir corph, er ei adail ad yhun yn‐cariat. Yr Epistol y xix. Sul gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
o’r Hwn, yr holl gorph yn cael ei gyfaddasu a’i gydgyssylltu trwy’r hyn y mae pob cymmal yn ei roddi, yn ol gweithrediad pob rhan mewn mesur, sy’n gwneuthur cynnydd y corph i’w adeiladaeth ei hun mewn cariad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac ohono ef y mae’r holl gorff sy’n cael ei gydasio a’i gydgordeddu drwy holl gymalau ei gynhaliaeth yn ôl y gweithrediad sy’n gymesur â phob un rhan, yn tyfu er ei adeiladaeth ei hun mewn cariad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O'r hwn y mae'r holl gorff wedi ei gydymgynnull a'i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i'w adeiladu ei hun mewn cariad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y pen sy'n gwneud i'r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o'r corff wedi ei weu i'w gilydd, a'r gewynnau'n dal y cwbl gyda'i gilydd, mae'r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac wrtho ef y mae'r holl gorff yn cael ei ddal wrth ei gilydd a'i gysylltu drwy bob cymal sy'n rhan ohono. Felly, trwy weithgarwch cyfaddas pob un rhan, ceir prifiant yn y corff, ac y mae'n ei adeiladu ei hun mewn cariad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
o'r hwn y mae yr holl gorph, wedi ei gyd‐gyflunio a'i gyd‐gyssylltu trwy yr hyn y mae pob cymmal yn ei gyflenwi, yn ol gweithrediad, mewn mesur pob rhan unigol, yn gwneuthur cynnydd y corph i'w adeiladaeth ei hun mewn cariad.