Ephesians 4:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ei meddwl vryd gwedy ei dywyllu, ac yn ddieithreit ywrth vucheð Dduw iol trwy’r anwybodaeth ysydd ynthwynt gan galated eu calon heu:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wedi eu tywyllu yn eu deall, wedi eu dieithrio oddiwrth fuchedd Duw o herwydd yr anwybodaeth sydd ynddynt,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn dywyll eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fywyd Duw o achos yr anwybod sydd ynddynt, drwy ddallineb eu calonnau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy'r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
maen nhw yn y tywyllwch! Maen nhw wedi eu gwahanu oddi wrth y bywyd sydd gan Dduw i'w gynnig am eu bod nhw'n gwrthod gwrando. Maen nhw'n ystyfnig!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd tywyllwch sydd yn eu deall, a dieithriaid ydynt i'r bywyd sydd o Dduw, o achos yr anwybodaeth y maent yn ei choleddu a'r ystyfnigrwydd sydd yn eu calon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
wedi eu tywyllu yn eu deall, wedi ymddyeithrio oddiwrth fywyd Duw o herwydd yr anwybodaeth sydd ynddynt, o herwydd caledrwydd eu calon;