Ephesians 4:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr ei gwedy yddyn ddiddarbodi a ymroesont y ddrythyllwch, y wneuthur iad pop aflendit, yn vnchwant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
o herwydd calediad eu calon; y rhai, wedi myned yn ddideimlad, a draddodasant eu hunain i drythyllwch i wneuthur pob aflendid gydag awydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y rhai wedi colli pob teimlad a ymollyngodd i drythyllwch i weithredu pob aflendid yn eu gwanc.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw. Dyn nhw'n gwneud dim byd ond byw'n anfoesol a gadael i'w chwantau mochaidd gael penrhyddid llwyr. Ac maen nhw eisiau mwy a mwy drwy'r adeg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pobl ydynt sydd wedi colli pob teimlad ac wedi ymollwng i'r anlladrwydd sy'n peri iddynt gyflawni pob math o aflendid yn ddiymatal.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai, wedi colli pob teimlad, a roisant eu hunain i fyny i anlladrwydd, i wneuthur pob aflendid gyda gwancusrwydd.
Recommended Reading