Ephesians 4:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwyd pa am bwrwch ymaith y celwyd, a’ dywedwch bawp vn wiri onedd wrth ei gymydawc: can ys aelodeu yym yw gylydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, gan ddodi ymaith gelwydd, lleferwch y gwir bob un â’i gymmydog, canys yr ydym yn aelodau o’n gilydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny, diosgwch y celwydd, a dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog, gan mai aelodau bob un o’i gilydd ydym.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i'n gilydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dim mwy o gelwydd! “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd”, am ein bod ni'n perthyn i'r un corff.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny, ymaith chelwydd! Dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog, oherwydd yr ydym yn aelodau o'n gilydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny, gan ddodi ymaith gelwydd, lleferwch y gwir bob un wrth ei gymmydog, oblegyd aelodau ydym o'n gilydd.