Ephesians 4:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na ðeued vn ymadrawdd llwgredic o’ch geneu e: anyd yr vn a vo cymmwys, er mwyn iant adailad, val y duco rat ir ei a ei clyw ant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na fydded i neb rhyw ymadrodd llygredig ddyfod allan o’ch genau, eithr yr hwn a fo dda i adeiladaeth fel y mae eisiau, fel y rhoddo ras i’r gwrandawyr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na ddeued un gair di-les o’ch genau, ond pa air bynnag a fo’n dda at adeiladu’r hyn sy’n eisiau, fel y rhoddo fendith i’r gwrandawyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i'r gwrandawyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch defnyddio iaith aflan. Dylech ddweud pethau sy'n helpu pobl eraill — pethau sy'n bendithio'r rhai sy'n eich clywed chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o'ch genau, dim ond geiriau da, sydd er adeiladaeth yn l yr angen, ac felly'n dwyn bendith i'r sawl sy'n eu clywed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na ddeued unrhyw ymadrodd iselwael allan o'ch genau, eithr y cyfryw a fyddo dda er adeiladaeth fel bo'r angen, fel y rhoddo ras i'r gwrandawyr.