Ephesians 4:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan astudiaw cadw vndep yr Yspryt yn rhwym edigeth tangneddyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Yspryd yng nghwlwm heddwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan fod yn eiddgar i gadw undeb yr ysbryd yn rhwymyn heddwch;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi eich gwneud chi'n un, a'i fod yn eich clymu chi gyda'ch gilydd mewn heddwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymrowch i gadw, rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Yspryd yn rhwymyn tangnefedd.