Ephesians 4:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Byðwch vwynion wrth eu gylydd, a’ t h rugarogion, gan vaddeu yw gylydd, megis ac maddeuawdd Duw er mwyn Christ i chwi theu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A byddwch gymmwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddeu i’ch gilydd, fel y bu i Dduw hefyd, yng Nghrist, faddeu i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Byddwch dirion wrth eich gilydd a thyner-galon, yn maddau i’ch gilydd fel y maddeuodd Duw yntau yng Nghrist i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A byddwch gymwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i'ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd fel mae Duw wedi maddau i chi drwy beth wnaeth y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i'ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a byddwch gymmwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, gan faddeu i'ch gilydd, megys hefyd y maddeuodd Duw yng Nghrist Iesu i chwi.