Ephesians 5:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac na vit yw’ch gyveillach a’r gweithredoeð anffrwythlon y tywyllwch, eithr ac yn gynt argyweddwch hvvy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
na fydded i chwi gymdeithas â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, ond yn hytrach hyd yn oed argyhoeddwch hwynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac na foed gennych ran yng ngweithredoedd di-ffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach argyhoeddwch hwynt, —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch cael dim i'w wneud â'r math o ymddygiad sy'n perthyn i'r tywyllwch. Na, ewch ati i ddangos mor ddrwg ydyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrthodwch ymgysylltu gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac na fydded i chwi gymdeithasu â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, eithr yn hytrach dygwch hwynt i brawf;