Ephesians 5:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit croesaneth yw bot adrodd y petheu, a wneir y ganthynt yn guðiedic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys y pethau a wneir yn y dirgel ganddynt, cywilyddus yw hyd yn oed eu henwi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
oherwydd cywilyddus yw hyd yn oed enwi’r pethau a wneir yn ddirgel ganddynt;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n warthus hyd yn oed sôn am y pethau mae pobl yn eu gwneud o'r golwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwarthus yw hyd yn oed crybwyll y pethau a wneir ganddynt yn y dirgel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys y mae yn gywilyddus hyd y nod adrodd y peth a wneir ganddynt yn ddirgel.