Ephesians 5:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ rhodiwch yn‐cariat, megis i n caroð Christ ni nheu, ac y roddes y hun an y trosā, y vot yn offrwm ac aberth arogl arwynt tec y Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhodiwch mewn cariad, fel y bu i Grist hefyd ein caru ni, ac y traddododd Ei hun trosom yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a rhodiwch mewn cariad, fel y carodd Crist chwithau a’i roddi ei hunan drosom yn offrwm ac yn aberth i Dduw, yn aroglau peraidd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylech fyw bywydau llawn cariad, yn union fel gwnaeth y Meseia ein caru ni a marw yn ein lle ni. Rhoddodd ei hun fel offrwm ac aberth oedd yn arogli'n hyfryd i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan fyw mewn cariad, yn union fel y carodd Crist ni, a'i roi ei hun trosom, yn offrwm ac aberth i Dduw, o arogl pr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a rhodiwch mewn cariad, megys hefyd y carodd Crist chwi, ac a draddododd ei hun trosoch yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd.