Ephesians 5:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can ddiol vv ch yn ’oystat am pop dim y Dduw sef y Tat, yn Enw ein Arglwyð Iesu Christ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddiolch bob amser am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a diolch bob amser am bopeth yn enw ein Harglwydd ni, Iesu Grist, i Dduw a’r Tad,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Diolchwch i Dduw y Tad am bopeth bob amser, o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan dalu diolch yn wastadol am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist i Dduw a'n Tâd,