Ephesians 5:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr godinep, a’ phop aflendit, neu cupyðdot, nac enwer chwaith yn eich plith, val y gwedda y Sainct æ, na chroesaneth,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond godineb ac aflendid o bob math, neu gybydd-dra, nac enwer hwynt yn eich plith,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond puteindra a phob aflendid neu drachwant, nac enwer chwaith yn eich plith, fel y mae’n weddus i saint,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd‐dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith! Dydy pethau felly ddim yn iawn i bobl sydd wedi cysegru eu bywydau i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfoesoldeb rhywiol, a phob aflendid a thrachwant, peidiwch hyd yn oed 'u henwi yn eich plith, fel y mae'n briodol i saint;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond godineb a phob aflendid, neu drachwant, nac hyd y nod enwer yn eich plith, fel y gwedda i saint;