Ephesians 5:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(can ys ffrwyth yr yspryt a hanoedd o bop daoni, ac vniondep, a’ gwirionedd)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
rhodiwch fel plant y goleuni; (canys ffrwyth y goleuni ymhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd y mae,)
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys y mae ffrwyth y goleuni mewn pob ewyllys da ac uniondeb a chywirdeb,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pethau da a chyfiawn a gwir ydy'r ffrwyth sy'n tyfu yn y golau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
(canys ffrwyth y goleuni sydd ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd;)