Ephesians 6:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am ben hyn, vy‐vroder, ym‐nerthwch yn yr Arglwydd, ac yn cadernit y allu ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn ddiweddaf, byddwch gryfion yn yr Arglwydd ac ynghadernid Ei allu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yng ngrym ei nerth ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r peth olaf sydd i'w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a'r pŵer aruthrol sydd ganddo fe.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn ddiweddaf, ymgryfhêwch yn yr Arglwydd ac yng nghadernid ei nerth.