Ephesians 6:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can nad yw ein ymdrech ni yn erbyn cic a’ gwaed, yn amyn yn erbyn pendevigaetheu, yn erbyn meddianneu, ac yn erbyn llywodron bydol, tyvvosogion y tywyllwch y byd hwn, yn erbyn enwireddae ysprytawl, yr ei ynt yn y’r lleoedd vcheliō.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid oes i ni ein hymaflyd codwm yn erbyn gwaed a chnawd, eithr yn erbyn y llywodraethau, yn erbyn yr awdurdodau, yn erbyn bydol-lywiawdwyr y tywyllwch hwn, yn erbyn y lluoedd ysprydol drwg yn y nefolion leoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid yn yr afael â gwaed a chnawd yr ydym ni ond â llywodraethau, ag awdurdodau, â byd-arglwyddi’r tywyllwch hwn, â chethern yr anwiredd yn y nefolion leoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae'n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy'n llywodraethu, sef yr awdurdodau a'r pwerau tywyll sy'n rheoli'r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid meidrolion yr ydym yn yr afael, ond thywys-ogaethau ac awdurdodau, llywod-raethwyr tywyllwch y byd hwn, phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys nid yw ein hymorchest ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn y llywodraethau, yn erbyn yr awdurdodau, yn erbyn byd‐lywiawdwyr y tywyllwch hwn, yn erbyn lluoedd ysprydol drygioni yn y nefolion leoedd.