Ephesians 6:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit hyn cymerwch atoch oll arvogaeth Duw, val y galloch wrth ladd yn y dydd blin, a’ gwedy ywch ’orphen pop dim, allv sefyll yn sefydlawc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O achos hyn cymmerwch i fynu lwyr-arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny, cymerwch gyflawn arfogaeth Duw fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi llawn orffen popeth, sefyll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw'n ei rhoi i chi, er mwyn i chi ddal eich tir pan fydd pethau'n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny, ymarfogwch holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru gwrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi cyflawni pob peth, sefyll yn gadarn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny cymmerwch i fyny holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi llawn‐wneuthur pob peth, sefyll.