Ephesians 6:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ chymrwch helym yr iechedwrieth, a’ chleddyf yr Yspryt, r hwn yw gair Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A helm iachawdwriaeth cymmerwch, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw Gair Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen, a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Derbyniwch helm iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chymmerwch helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw gair Duw;