Ephesians 6:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gweddiwch bop amser a’ phop ryw weddi ac ervyn yn yr Yspryt: a’ gwiliwch tu ac at hyn y gyd a phop astudrwydd a’ golochwyt dros yr oll Sainct æ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gyda phob gweddi a deisyfiad, yn gweddïo bob amser yn yr Yspryd, ac yn gwylied ar hyn ei hun ymhob dyfal-bara, a deisyfiad am yr holl saint,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gyda phob gweddi ac erfyniad, gan weddïo ar bob adeg yn yr Ysbryd, a gwylio ar hyn gyda phob taerineb ac erfyniad dros yr holl saint
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae'r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo'n daer dros bobl Dduw i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddo bob amser yn yr Ysbryd. I'r diben hwn, byddwch yn effro, gyda dyfalbarhad ym mhob math o ymbil dros y saint i gyd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
trwy foddion pob rhyw weddi a deisyfiad, yn gweddio ar bob achlysur yn yr Yspryd, ac yn gwylied gyda golwg ar hyn ym mhob dyfal‐bara a deisyfiad am yr holl saint;