Ephesians 6:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yn rhwym, val y bo ymy ddywedyt yn hyder us o hanei, megis y perthyn i mi ddywedyt yn y peth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
dros yr hwn yr wyf yn gennad mewn cadwyn, fel ynddo y traethwyf gydag hyfdra, fel y dylwn lefaru.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
efengyl yr wyf yn gennad drosti mewn cadwyn, fel y bwyf eofn ynddi i lefaru fel y dylwn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Llysgennad y Meseia Iesu ydw i, mewn cadwyni am gyhoeddi ei neges. Gweddïwch y bydda i'n dal ati i wneud hynny'n gwbl ddi-ofn, fel y dylwn i wneud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trosti hi yr wyf yn llysgennad mewn cadwynau. Ie, gweddwch ar i mi lefaru'n hy amdani, fel y dylwn lefaru.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
dros yr hwn yr wyf yn llys‐gennad mewn cadwynau, fel am dano y llefarwn gyda hyfdra, fel y dylwn lefaru.