Ephesians 6:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val y gwypoch hefyd y wrth vy negeseu i, a’ pha beth ’rwyf yn ei wneuthur, Tychicus vy‐caredic vrawt a’ gwenidoc ffyðlon yn yr Arglwydd, a veneic y’wch yr oll betheu,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond fel y gwypoch chwi hefyd fy matterion, pa wedd y mae gyda mi, hyspysa Tuchicus y cwbl i chwi, y brawd anwyl a’r gweinidog ffyddlawn yn yr Arglwydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Er mwyn i chwithau, hefyd, wybod fy helynt sut y mae arnaf, cewch glywed popeth gan Tychicus, y brawd annwyl a’r gwas ffyddlon yn yr Arglwydd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd Tychicus, sy'n frawd annwyl iawn ac yn weithiwr ffyddlon i'r Arglwydd, yn dweud wrthoch chi sut mae pethau'n mynd a beth dw i'n ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er mwyn i chwithau wybod fy hanes, a beth yr wyf yn ei wneud, fe gewch y cwbl gan Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, sut y mae arnaf, Tychicus, y brawd anwyl a'r gwas ffyddlawn yn yr Arglwydd,