Ephesians 6:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Arglwyddi gwnewch- vvitheu ’r vn ryw betheu yddynt wy, gan vaddeu bygwth iavv: a’ gwybyddwch vot eich Arglwydd chwi ac wynt yn y nefoedd, ac nad oes braint‐gymeriat gyd ac efe. Yr Epistol y xxi. Sul gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y meistriaid, yr un pethau gwnewch tuag attynt hwy, gan roddi heibio fygwth, gan wybod fod eich meistr chwi a hwythau yn y nefoedd, a derbyn gwyneb nid oes gydag Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Chwithau, feistriaid, gwnewch yr un modd tuag atynt hwythau, gan adael bygwth heibio, a chwi’n gwybod bod eu Harglwydd hwy a’ch Arglwydd chwithau yn y nefoedd, ac nad oes derbyn wyneb gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A chi'r meistri yr un fath, dylech drin eich caethweision yn deg. Peidiwch eu bwlio nhw. Cofiwch fod Duw, sydd yn y nefoedd, yn feistr ar y naill a'r llall ohonoch chi. Does ganddo fe ddim ffefrynnau!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwi feistri, gwnewch yr un peth iddynt hwy, gan roi'r gorau i fygwth, oherwydd fe wyddoch fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nad yw ef yn dangos ffafriaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag attynt hwy, gan roddi bygwth heibio, gan wybod fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nid oes derbyn wyneb gydag ef.