Esther 1:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y frenhines Fasti a wrthododd ddyfod wrth air y brenin trwy law ei ystafellyddion: am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr, a'i ddicllonedd ef a enynnodd ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan ddwedodd yr ystafellyddion wrthi beth oedd y brenin eisiau dyma'r frenhines yn gwrthod mynd. Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân — roedd yn gynddeiriog!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gwrthododd y Frenhines Fasti ddod ar orchymyn y brenin trwy'r eunuchiaid. Felly gwylltiodd y brenin yn ddirfawr a chyneuodd ei lid.