Esther 1:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os bydd bodlon gan y brenin, eled brenhinol orchymyn oddi wrtho ef, ac ysgrifenner ef ymysg cyfreithiau y Persiaid a'r Mediaid, fel na throsedder ef, na ddêl Fasti mwy gerbron y brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei brenhinfraint hi i'w chyfeilles yr hon sydd well na hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy'r brenin yn cytuno, dylai anfon allan ddatganiad brenhinol am y peth, a'i ysgrifennu yn llyfrau cyfraith Persia a Media, fel bod dim modd ei newid. Ddylai Fasti ddim cael gweld y brenin Ahasferus byth eto, a dylai'r brenin roi ei theitl i rywun arall fyddai'n frenhines well na hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyda chydsyniad y brenin, gwneler datganiad brenhinol, a'i ysgrifennu yn neddfau'r Persiaid a'r Mediaid fel na chaiff ei newid, nad yw Fasti i ddod mwyach i u373?ydd y Brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei swydd frenhinol hi i un arall sy'n rhagori arni.