Esther 1:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y drydedd flwyddyn o'i deyrnasiad, efe a wnaeth wledd i'w holl dywysogion a'i weision; cadernid Persia, a Media, y rhaglawiaid, a thywysogion y taleithiau, oedd ger ei fron ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma fe'n cynnal gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Roedd penaethiaid byddin Persia a Media yno, a llywodraethwyr y taleithiau, a phawb arall o bwys.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gwnaeth y Brenin Ahasferus wledd i'w holl dywysogion a'i weinidogion. Daeth byddin y Persiaid a'r Mediaid, y penaethiaid a thywysogion y taleithiau o'i flaen,