Esther 1:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Lle yr oedd llenni gwynion, gwyrddion, a rhuddgochion, wedi eu clymu â llinynnau sidan, ac â phorffor, wrth fodrwyau arian, a cholofnau marmor: y gwelyau oedd o aur ac arian, ar balmant o faen grisial, a marmor, ac alabaster, a iasinct.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobman wedi ei addurno gyda llenni o liain main gwyn a phorffor. Roedd cylchoedd arian yn dal y llenni ar gordyn wedi ei wneud o liain main a gwlân porffor, ac roedden nhw'n hongian rhwng colofnau marmor. Ac roedd soffas o aur ac arian ar balmant hardd oedd â phatrymau trwyddo o feini ffelsbar, marmor, mam y perl, a cherrig lliwgar eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yno lenni gwyn a glas wedi eu rhwymo llinynnau o sidan a phorffor wrth gadwynau arian ar golofnau marmor. Yr oedd yno welyau o aur ac arian ar lawr o risial, marmor, alabastr a glasfaen gwerthfawr.