Esther 10:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Mordecai yr Iddew oedd yn nesaf i'r brenin Ahasferus, ac yn fawr gan yr Iddewon, ac yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr; yn ceisio daioni i'w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i'w holl hiliogaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mordecai oedd y swyddog uchaf yn y deyrnas, ar ôl y brenin ei hun. Roedd yn arwr i'r Iddewon ac yn cael ei edmygu'n fawr gan ei bobl i gyd. Roedd yn gwneud ei orau glas dros ei bobl, ac yn ceisio gwneud yn siŵr y byddai'r cenedlaethau i ddod yn saff.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd Mordecai'r Iddew oedd y nesaf at y Brenin Ahasferus; yr oedd yn fawr ymysg yr Iddewon ac yn gymeradwy gan lawer iawn o'i frodyr, am ei fod yn ceisio gwneud lles i'w bobl ac yn hyrwyddo ffyniant ei holl genedl.
Recommended Reading