Esther 2:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddigwyddai amser pob llances i fyned i mewn at y brenin Ahasferus, wedi bod iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddeng mis, (canys felly y cyflawnid dyddiau eu puredigaeth hwynt; chwe mis mewn olew myrr, a chwe mis mewn peraroglau, a phethau eraill i lanhau y gwragedd;)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth blwyddyn gyfan heibio pan oedd y merched yn cael eu paratoi, cyn i'w tro nhw ddod i fynd at y Brenin Ahasferus. Roedd pob un ohonyn nhw yn gorfod mynd trwy driniaethau harddwch gyntaf — chwe mis pan oedd eu croen yn cael ei drin gydag olew olewydd a myrr, a chwe mis pan oedden nhw'n cael persawrau a coluron.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar ddiwedd deuddeg mis, sef y cyfnod o baratoi a osodwyd ar gyfer y gwragedd chwe mis gydag olew a myrr, a chwe mis gyda pheraroglau ac offer coluro'r gwragedd di tro pob merch i fynd at y Brenin Ahasferus.