Esther 2:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gyda'r hwyr yr âi hi i mewn, a'r bore hi a ddychwelai i dŷ arall y gwragedd, dan law Saasgas, ystafellydd y brenin, ceidwad y gordderchadon: ni ddeuai hi i mewn at y brenin mwyach, oddieithr i'r brenin ei chwennych hi, a'i galw hi wrth ei henw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddai'n mynd ato gyda'r nos, ac yna'r bore wedyn yn mynd i ran arall o lety'r harîm, lle roedd cariadon y brenin yn aros, a Shaasgas, un o ystafellyddion y brenin yn gofalu amdanyn nhw. Fyddai'r merched yma ddim yn mynd yn ôl at y brenin oni bai fod y brenin wedi ei blesio'n fawr gan un ohonyn nhw ac yn gofyn yn benodol amdani.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i allan gyda'r hwyr, a dychwelyd yn y bore i ail du375?'r gwragedd o dan ofal Saasgas, eunuch y brenin a ofalai am y gordderchwragedd; ni fyddai'n mynd eilwaith at y brenin oni bai iddo ef ei chwennych a galw amdani wrth ei henw.