Esther 2:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan chwilwyd y peth, fe a gafwyd felly: am hynny y crogwyd hwynt ill dau ar bren. Ac ysgrifennwyd hynny mewn llyfr cronicl gerbron y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r brenin yn cael ei swyddogion i ymchwilio i'r mater, a darganfod ei fod yn wir. Felly cafodd y ddau eu crogi. A dyma bopeth oedd wedi digwydd yn cael ei ysgrifennu o flaen y brenin yn sgrôl Cofnodion yr Ymerodraeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwiliwyd yr achos a chafwyd ei fod yn wir; felly crogwyd y ddau ar bren. Ysgrifennwyd yr hanes yn llyfr y cronicl yng ngu373?ydd y brenin.