Esther 2:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fagasai Hadassa, honno yw Esther, merch ei ewythr ef frawd ei dad; canys nid oedd iddi dad na mam: a'r llances oedd weddeiddlwys, a glân yr olwg; a phan fuasai ei thad a'i mam hi farw, Mordecai a'i cymerasai hi yn ferch iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Mordecai wedi magu ei gyfnither, Hadassa (sef Esther). Roedd ei thad a'i mam wedi marw, ac roedd Mordecai wedi ei mabwysiadu a'i magu fel petai'n ferch iddo fe ei hun. Roedd hi wedi tyfu'n ferch ifanc siapus a hynod o ddeniadol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ef wedi mabwysiadu ei gyfnither Hadassa, sef Esther, am ei bod yn amddifad. Yr oedd hi'n ferch deg a phrydferth; a phan fu farw ei thad a'i mam, mabwysiadodd Mordecai hi'n ferch iddo'i hun.