Esther 3:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin, yn y mis cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis hwnnw, ac yr ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman, at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ar y trydydd ar ddeg o'r mis cyntaf dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma bopeth wnaeth Haman ei orchymyn yn cael ei ysgrifennu mewn llythyrau at y rhaglawiaid a llywodraethwyr a swyddogion y taleithiau i gyd. Roedd llythyr pob talaith unigol yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd y llythyrau yn cael eu hanfon yn enw'r Brenin Ahasferus, ac wedi eu selio gyda'i sêl-fodrwy e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf, galwyd ar ysgrifenyddion y brenin, ac ar orchymyn Haman ysgrifennwyd at bendefigion y brenin, rheolwyr pob talaith a thywysogion pob cenedl, i bob talaith yn ei hysgrifen ei hun a phob cenedl yn ei hiaith ei hun. Yr oedd y wu375?s wedi ei hysgrifennu yn enw'r Brenin Ahasferus ac wedi ei selio 'r fodrwy frenhinol.