Esther 3:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r llythyrau a anfonwyd gyda'r rhedegwyr i holl daleithiau y brenin; i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha yr holl Iddewon, yn ieuainc ac yn hen, yn blant ac yn wragedd, mewn un dydd, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd negeswyr yn mynd â'r llythyrau i daleithiau'r deyrnas, yn gorchymyn dinistrio'r Iddewon yn llwyr, a'i lladd nhw i gyd — pobl ifanc a phobl mewn oed, gwragedd a phlant. Wedyn roedd eu heiddo i gyd i gael ei gymryd. Roedd hyn i ddigwydd ar y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (sef mis Adar).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna anfonwyd negeswyr gyda llythyrau i holl daleithiau'r brenin yn gorchymyn dinistrio, lladd a difa pob Iddew, yn llanc a hynafgwr, plant a gwragedd, ac ysbeilio'u heiddo, ar yr un diwrnod, sef y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, hynny yw, Adar.