Esther 3:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhedegwyr a aethant, wedi eu cymell trwy air y brenin, a'r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys. Y brenin hefyd a Haman a eisteddasant i yfed, a dinasyddion Susan oedd yn athrist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r negeswyr yn mynd allan ar frys ar orchymyn y brenin. Roedd y gorchymyn wedi ei gyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan. Tra roedd y brenin a Haman yn eistedd i lawr yn yfed gyda'i gilydd, roedd pobl y ddinas wedi drysu'n lân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y negeswyr allan ar frys yn l gorchymyn y brenin, a chyhoeddwyd y gorchymyn yn Susan y brifddinas. Yna eisteddodd y brenin a Haman i yfed; ond yr oedd dinas Susan yn drist.