Esther 3:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y mis cyntaf, hwnnw yw mis Nisan, yn y ddeuddegfed flwyddyn i'r brenin Ahasferus, efe a barodd fwrw Pwr, (hwnnw yw, y coelbren,) gerbron Haman, o ddydd i ddydd, ac o fis i fis, hyd y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y mis cyntaf (sef Nisan) o'r ddeuddegfed flwyddyn i Ahasferus fel brenin, dyma Haman yn mynd trwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis), i benderfynu ar ddyddiad a mis i ladd yr Iddewon. Roedd y dyddiad gafodd ei ddewis yn ystod y deuddegfed mis (sef Adar).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn neuddegfed flwyddyn y Brenin Ahasferus, yn y mis cyntaf, sef Nisan, bwriasant Pwr (hynny yw, coelbren) o flaen Haman i ddewis dydd a mis, ac fe syrthiodd y coelbren ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar.