Esther 3:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus, Y mae rhyw bobl wasgaredig a gwahanedig ymhlith y bobloedd, trwy holl daleithiau dy frenhiniaeth; a'u cyfreithiau hwynt sydd yn amrafaelio oddi wrth yr holl bobl, ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin; am hynny nid buddiol i'r brenin eu dioddef hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Haman yn mynd at y Brenin Ahasferus, a dweud wrtho, “Mae yna un grŵp o bobl ar wasgar drwy daleithiau dy deyrnas di, sy'n cadw ar wahân i bawb arall. Maen nhw'n cadw eu cyfreithiau eu hunain a ddim yn ufuddhau i gyfreithiau'r brenin. Ddylai'r brenin ddim gadael iddyn nhw wneud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Haman wrth y Brenin Ahasferus, "Y mae yna genedl, wedi ei chwalu a'i gwasgaru ymhlith y bobloedd yn holl daleithiau dy deyrnas, sy'n ei chadw ei hun ar wahn. Y mae eu cyfreithiau'n wahanol i rai pawb arall, ac nid ydynt yn cadw cyfreithiau'r brenin; nid yw er lles y brenin eu goddef.