Esther 4:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Holl weision y brenin, a phobl taleithiau y brenin, ydynt yn gwybod, mai pa ŵr bynnag, neu wraig, a ddelo i mewn at y brenin i'r cyntedd nesaf i mewn, heb ei alw, un o'i gyfreithiau ef yw ei farwolaethu ef, oddieithr yr hwn yr estynno y brenin y deyrnwialen aur iddo, fel y byddo byw: ac ni'm galwyd i ddyfod i mewn at y brenin, bellach er ys deng niwrnod ar hugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae swyddogion a gweision y brenin drwy'r taleithiau i gyd yn gwybod beth mae'r gyfraith yn ddweud fydd yn digwydd i unrhyw un sy'n mynd i weld y brenin heb gael gwahoddiad — mae'r person hwnnw i farw, oni bai fod y brenin yn arbed ei fywyd drwy estyn y deyrnwialen aur ato fe neu hi. Dw i ddim wedi cael gwahoddiad i fynd i weld y brenin ers mis cyfan!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae holl weision y brenin a phobl ei daleithiau yn gwybod nad oes ond un ddedfryd yn aros unrhyw u373?r neu wraig sy'n mynd i'r cyntedd mewnol at y brenin heb wahoddiad, sef marwolaeth; ni chaiff fyw oni bai i'r brenin estyn ei deyrnwialen aur iddo. Nid wyf fi wedi fy ngalw at y brenin ers deg diwrnod ar hugain bellach."