Esther 4:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Mordecai a fynegodd iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddo; a swm yr arian y rhai a adawsai Haman eu talu i drysorau y brenin am yr Iddewon, i'w difetha hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Mordecai yn dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd, a faint o arian oedd Haman wedi addo ei dalu i'r trysordy brenhinol petai'r Iddewon yn cael eu lladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd Mordecai wrtho am y cwbl a ddigwyddodd iddo, ac am y swm o arian yr addawodd Haman ei dalu i drysorfa'r brenin er mwyn difa'r Iddewon.