Esther 4:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a roddodd iddo destun ysgrifen y gorchymyn a osodasid yn Susan i'w dinistrio hwynt, i'w ddangos i Esther, ac i'w fynegi iddi, ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin, i ymbil ag ef, ac i ymnhedd o'i flaen ef dros ei phobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n rhoi copi ysgrifenedig i Hathach o'r gorchymyn oedd wedi ei ddosbarthu yn Shwshan yn dweud fod yr Iddewon i gael eu lladd. Gofynnodd i Hathach ei ddangos i Esther ac esbonio iddi beth oedd yn digwydd, a dweud wrthi fod rhaid iddi fynd at y brenin i bledio ac apelio arno i arbed ei phobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd iddo hefyd gopi o'r wu375?s a gyhoeddwyd yn Susan, yn gorchymyn eu dinistrio, er mwyn iddo yntau ei dangos a'i hegluro i Esther, a dweud wrthi am fynd at y brenin i ymbil ag ef ac erfyn arno dros ei phobl.